Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Meeting Room 4B, Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 20 Mai 2025

Amser: 09.00 - 09.56
 


Private, Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Paul Davies AS

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Matthew Richards, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cafodd yr Aelodau eu croesawu i’r cyfarfod gan y Dirprwy Lywydd, a chafodd eitemau 3.1 a 3.3 eu cadeirio ganddo. Y Llywydd a gadeiriodd weddill y cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

 

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth  

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:

 

 

 

Dydd Mercher

 

Gofynnodd Heledd Fychan i'r Llywodraeth wneud datganiadau llafar ar y materion canlynol:

 

Mewn ymateb, dywedodd y Trefnydd fod y Llywodraeth yn ystyried gohebiaeth gan Rhun ap Iorwerth AS ynglŷn â'r sefyllfa gyda Phont Menai ac y bydd yn rhoi ystyriaeth bellach i’r mater. Nododd fod datganiad ysgrifenedig ar gytundeb masnach y DU-UE wedi'i gyhoeddi ac y byddai'n ystyried y ceisiadau a wnaed.

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 3 Mehefin 2025 -

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg (15 munud)

 

Dydd Mawrth 10 Mehefin 2025 -

·         Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025 (15 munud)

 

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 4 Mehefin 2025 - 

 

Dydd Mercher 11 Mehefin 2025 -

 

Cytunwyd i drefnu’r eitemau a ganlyn hefyd ar Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 18 Mehefin 2025 -

·         Dadl ar ddeiseb. P-06-1365 Ailagor llinellau rheilffyrdd i gysylltu gogledd a de Cymru (30 munud)

·         Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)

 

</AI6>

<AI7>

4       Pwyllgorau

</AI7>

<AI8>

4.1   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn gwneud cais am ddadl

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais gan y Pwyllgor Deisebau i amserlennu dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ddeiseb P-06-1525 Diogelu cymeriad unigryw Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru cyn toriad yr haf. 

 

</AI8>

<AI9>

4.2   Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru: Trefniadau Cadeirio

Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o opsiynau mewn perthynas â Phwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru. Cadarnhaodd Paul Davies y byddai grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ymwneud â chraffu a gynhelir gan bwyllgorau pwnc eraill. Nododd y Trefnydd y byddai'r grŵp Llafur yn fodlon i'r Pwyllgor barhau â'i waith pe gellid enwebu cyd-gadeirydd newydd. Ailbwysleisiodd Heledd Fychan safbwynt grŵp Plaid Cymru, sef canfod ffordd i’r Pwyllgor a’r gwaith craffu ar Ymchwiliad Covid y DU barhau yn y Senedd, ond gan nodi nad oedd trefniadau cyd-gadeirio wedi gweithio ac na fyddai'r grŵp yn fodlon enwebu cyd-gadeirydd ar y sail honno.

 

Cynigiodd y Llywydd fod y Pwyllgor Busnes yn ystyried gwahodd pwyllgorau perthnasol i archwilio'r adroddiadau a gyhoeddwyd gan Ymchwiliad Covid y DU ar ddiwedd ei ystyriaeth o bob modiwl ac i graffu ar y materion sy'n berthnasol i Gymru. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried cynnig yn ymwneud â hyn mewn cyfarfod dilynol.

 

</AI9>

<AI10>

5       Deddfwriaeth

</AI10>

<AI11>

5.1   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i:

 

</AI11>

<AI12>

5.2   Papurau ar faterion i'w hystyried yn sgil cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cydgrynhoi cyfraith gynllunio

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar y goblygiadau i’r Senedd yn sgil cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Biliau i gydgrynhoi'r gyfraith gynllunio. Roedd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni yn bresennol i gyfrannu at drafodaeth ynghylch amserlenni arfaethedig y Llywodraeth ar gyfer craffu ar y Biliau.

 

Amlinellodd swyddogion Comisiwn y Senedd y goblygiadau posibl a allai ddeillio o'r amser cyfyngedig a fydd ar gael i graffu ar y Biliau gan bwyllgorau a'r Senedd yn y Cyfarfod Llawn. Yn benodol, nodwyd na fyddai'r amserlen gyffredinol yn gallu darparu digon o amser ar gyfer y Cam Ystyriaeth Gychwynnol a chaniatáu’r posibilrwydd o Gam Ystyried Manwl y Senedd (pe bai'r pwyllgor cyfrifol yn argymell hynny i'r Senedd ).

 

Roedd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni yn cydnabod y pryderon a godwyd ynglŷn â maint y Biliau a'r amser sy'n weddill ar gyfer craffu a'u pasio drwy'r Senedd. Ailadroddodd fod y Llywodraeth yn bwriadu darparu Biliau drafft i'r pwyllgor cyfrifol ar yr adeg y maent yn cael eu hanfon at y Llywydd ar gyfer Penderfyniad ac y bydd hi’n sicrhau ei bod hi a’i swyddogion ar gael i'r pwyllgor yn ôl yr angen drwy gydol y Cam Ystyried Cychwynnol.

 

Nododd y Cwnsler Cyffredinol fod gan y Llywodraeth safbwynt gwahanol ar amserlen Cyfnod Manwl y Senedd, ac amlinellodd ffordd o feddwl y Llywodraeth o ran y modd y gellid trin y cam(au) diwygio ar gyfer dau Fil Cydgrynhoi cysylltiedig ond ar wahân.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i nodi cyngor ar y weithdrefn ar gyfer craffu ar Filiau Cydgrynhoi ac y byddai swyddogion Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Senedd yn cyfarfod i drafod ymhellach gynigion ar gyfer yr amserlenni ar gyfer y ddau Fil Cydgrynhoi. Yn benodol, gofynnwyd i swyddogion ystyried cwestiynau ynghylch sut y dylid trin y cam(au) diwygio mewn perthynas â'r ddau Fil cysylltiedig ond ar wahân.

 

</AI12>

<AI13>

5.3   Blwyddyn Pump y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer amserlenni o ran y Biliau ym Mlwyddyn Pump y Rhaglen Ddeddfwriaethol, a nododd eto fod y Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod fersiynau drafft o'r Biliau ar gael i bwyllgorau pan fyddant yn cael eu darparu i'r Llywydd ar gyfer y cyfnod Penderfyniad.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes gynigion cyfredol y Llywodraeth a bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i ddarparu rhagor o fanylion ar bob un cyn toriad yr haf i gynorthwyo'r pwyllgorau arweiniol i gynllunio eu gwaith craffu.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes hefyd nifer o faterion mewn perthynas â phwyllgorau sydd â diddordeb mewn Biliau gydag amserlenni sy'n gorgyffwrdd a chytunodd y bydd swyddogion Comisiwn y Senedd yn llunio cyngor ar ddyrannu Biliau posibl i bwyllgorau presennol neu ychwanegol cyn gofyn iddo gytuno ar amserlenni arfaethedig.

 

 

</AI13>

<AI14>

6       Unrhyw fater arall

Lle Russell George ar bwyllgor

 

Nododd Paul Davies y byddai'r Grŵp Ceidwadol yn fodlon cynnig un o'u lleoedd ar bwyllgor i Russell George AS ac y byddai'n cysylltu â'r ysgrifenyddiaeth er mwyn trefnu hyn.

 

Diddymu Pwyllgor y Biliau Diwygio a Phwyllgor Senedd y Dyfodol

 

Nododd y Pwyllgor Busnes fod gwaith Pwyllgor y Biliau Diwygio a Phwyllgor Senedd y Dyfodol bellach wedi dod i ben. Diolchodd y Rheolwyr Busnes i'r Dirprwy Lywydd am gadeirio'r ddau bwyllgor a chytunodd i gyflwyno cynigion i'r Senedd ar ôl yr hanner tymor i gynnig diddymu'r pwyllgorau.

 

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>